Gallwn eich helpu chi i ysgrifennu trefn y gwasanaeth, a hynny o gerdyn emynau syml i ddyluniad coethach.
Rydym yn dylunio ac yn argraffu ein pamffledi yn fewnol. Mae Helen, gweinyddes ein swyddfa, yn hen law ar y dasg hon a gall gynnig cyngor i chi ar y broses ddylunio. Gellir ychwanegu llun(iau) o’ch anwylyd pe dymunech.
Agwedd fodern ar wasanaeth angladd yw creu cyflwyniad PowerPoint yn cynnwys lluniau’ch anwylyd. Gallwn greu hwn ar eich cyfer. Mae gan yr amlosgfa sgrin i arddangos y cyflwyniad, a gall ein capeli gorffwys gynnig y ddarpariaeth hon hefyd. Gofynnwch am ragor o fanylion.