Fy enw yw Arwel, y bedwaredd ganrif yn fy nheulu i fod yn berchennog a Threfnwr Angladdau yn John Hughes a'i Fab. Rwyf wedi fy nghofrestru â B.I.F.D ac mae'r cwmni'n cydymffurfio â chod ymarfer y diwydiant.
Mae fy mam, Phyllis, yn gydberchennog ac yn rheolwr swyddfa. Mae fy mrawd, Ieuan, yn chwarae rhan flaenllaw yn y busnes gan ddelio â galwadau'r crwner a threfniadau cyffredinol. Mae Helen yn weinyddwr ac yn drefnwr angladdau cymwys ac mae'i chymorth yn amhrisiadwy. Mae Elaine, fy mhartner, yn gweinyddu'r cyfraniadau rhodd. Mae gennym dîm ymroddgar sydd yn gweithio tu allan i oriau gwaith sydd yn ymrwymo'n ddyddiol i edrych ar eich hôl chi a'ch anwyliaid unrhyw awr o'r dydd.
Partneriaeth newydd
Fis Chwefror 2020, ffurfiwyd partneriaeth newydd rhwng John Hughes a’i Fab, Amlwch a R. Hughes a’i Fab, Llangefni. Mae Arwel yn cynnig cymorth a chefnogaeth gyda threfniadau angladdau ac mae Robin a Robert yn parhau i gyflawni gwaith cerrig beddi’r busnes.
Gyda’i gilydd, teimlant yn gryf dros gynnal y safonau uchel, y proffesiynoldeb a’r cyfeillgarwch teuluol a ddisgwylir gan fusnes o’r fath.
Ein Safle a Chapel Gorffwys
Lleolir ein Capel Gorffwys wrth ymyl ein swyddfa ym Mhorth Amlwch. Cafodd ei atgyweirio yn sylweddol a'i rannu yn ddwy ran; y dderbynfa a Chapel Britannia. Mae’r dderbynfa’n caniatáu i’r teulu, ffrindiau a chydweithwyr i ymbaratoi eu hunain cyn mynd i mewn i’r Capel i weld eu hanwylyd. Trwy ddefnyddio’r dderbynfa, gall pobl fynd i mewn i weld eu hanwylyd yn breifat ac yn ddistaw boed yn unigol neu gyda’i gilydd.
Fel y gwelwch o’r llun, mae'r Capel wedi cael ei addurno yn chwaethus ac yn cynnwys hen allor a roddwyd i fy nhad gan yr Eglwys Gatholig a atgyweiriwyd ac adnewyddwyd ganddo.
Pe dymunir, gellir cynnal gwasanaeth yma. Gellir agor y ddau ddrws i’r Capel ac mae lle i 30 o bobl i eistedd. Cynhaliwyd nifer o wasanaethau yng Nghapel Britannia dros y blynyddoedd. Mae gennym organ ond gellir chwarae unrhyw gerddoriaeth a recordiwyd ymlaen llaw hefyd. Rydym yn cydnabod efallai y byddwch yn dymuno treulio amser gyda’ch anwylyd ar yr adeg hon ac mae hyn yn bosibl, wrth gwrs, os rhowch ddigon o rybudd i ni.
Lleolir ein hail Gapel Gorffwys drws nesaf i'n swyddfa yn Llangefni. Yn ddiweddar, rydym wedi prynu Capel Penuel sydd drws nesaf i'r swyddfa ac yn falch o gyhoeddi y byddem yn ailwampio, adnewyddu ac yn adfer yr adeilad gan leoli swyddfeydd newydd, ystafell ymweld a Chapel Gorffwys. Yng Nghapel Penuel, byddwn yn gallu cynnal angladdau fydd yn dal i fyny at 250 o bobl.
Gyda'r ddau Gapel a Chapel Penuel, byddwn yn gallu ffrydio a recordio angladdau gyda'n system AV, pe bae'r teulu yn dymuno hynny.